minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
UNDEB Y MAMAU | MOTHER'S UNION
English

Undeb y Mamau ar Waith

Mae Undeb y Mamau ar Waith, Llanfairpwll yn rhan o Undeb y Mamau ledled y byd.

Sefydliad Cristnogol yw Undeb y Mamau sydd â thros 3.6 miliwn o aelodau mewn 79 gwlad. Calon yr Undeb yw ei rwydwaith byd-eang o wirfoddolwyr ar lawr gwlad. Beth bynnag fo eu cefndiroedd unigol, mae’r aelodau’n unedig yn eu hymroddiad i gefnogi priodas a bywyd teuluol. Maen nhw’n rhoi’n hael o’u hamser i helpu eraill, boed hynny drwy gynnal prosiectau lleol, cefnogi ymgyrchoedd rhyngwladol, neu godi arian.

Mae Undeb y Mamau ar Waith, Llanfairpwll yn cyfarfod unwaith y mis ar y 4ydd dydd Iau yn y prynhawn ac mi fyddwn ni’n cynnal ambell gyfarfod gyda’r nos dros Zoom. Rydym yn cymryd rhan mewn amrywiol brosiectau lleol oddi mewn i’n cymuned a’n hardal gyfagos. Rydym yn cynhyrchu ac yn darparu rhoddion ac angenrheidiau ar gyfer lloches leol i ferched, lloches i’r digartref, cartrefi gofal a’r ysbyty lleol.

Ein thema am dair blynedd o 2022 ymlaen yw Gweddnewidiad ‘Nawr, a thrwy hyn byddwn yn gweddnewid ein hunain, yn bersonol ac yn ysbrydol, i fyw ein ffydd, trawsnewid yr eglwysi a’r cymunedau lle rydym yn gweithio ac yn rhan ohonynt, er mwyn adlewyrchu teyrnas Crist gan weddnewid Undeb y Mamau i fod yn berthnasol i fywyd yn yr 21fed ganrif.

Mae’r aelodaeth yn agored i bawb; am ragor o wybodaeth cysylltwch â Liz Foskett (01248 714834; foskett2011@btinternet.com)

Cymraeg

Mothers’ Union in Action

Mothers’ Union in Action, Llanfairpwll is part of the worldwide Mothers’ Union

Mothers’ Union is a Christian organisation with more than 3.6 million members in 79 countries worldwide. The backbone of MU is its worldwide network of grassroots volunteers. Whatever their individual backgrounds, members are united in their commitment to supporting marriage and family life. They give their time generously to help others, whether by running local projects, supporting international campaigns, or fundraising.

Mothers’ Union in Action, Llanfairpwll meets once a month on the 4th Thursday in the afternoon and we have occasional evening meetings via Zoom. We are active in various local projects within our community and immediate locality. We make and provide gifts and necessities for the local women’s refuge, homeless shelter, residential homes and local hospital.

Our theme for three years from 2022 is Transformation Now, whereby we will transform ourselves, personally and spiritually, to live out our faith, transform the churches and communities we work with and of which we are a part, to reflect Christ's kingdom and transform Mothers' Union to be relevant for 21st century life.

Membership is open to all; for further details contact Liz Foskett (01248-714834; foskett2011@btinternet.com)