minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
HAFAN LONYDD Eglwys Llanfairpwll | A TRANQIL HAVEN - Llanfairpwll Church

PARCH. LLEW AR Y TELEDU! / REV. LLEW ON TV!

Dilynwch Parch. Llew Moules-Jones ar daith gerdded ddiddorol ar S4C / Follow Rev. Llew Moules-Jones on a scenic walk on S4C.

Cliciwch y ddolen / Click on the link:

"AM DRO". (35' 20" o Lanfairpwll i Lanedwen)

EGLWYS ECO:  MANNAU DYMUNOL

Cliciwch yma i weld y stori'n llawn ar "Y Ddolen".

‘Syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol, ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol,’ meddai’r Salmydd (Salm 16) ac y mae cynulleidfaoedd Bro Dwynwen yn ymwybodol iawn o’u cyfrifoldeb i warchod ac i ofalu am yr etifeddiaeth naturiol honno yn y rhan yma o’r Ynys.

Mae Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll, Eglwys Sant Nidan ac Eglwys Santes Ceinwen i gyd wedi cofrestru i fod yn aelodau o’r mudiad Eco Church (Eglwys Eco) - ecochurch.arocha.org.uk - sydd yn ein hannog fel Cristnogion i ofalu am fyd Duw ym mhob un o’r meysydd canlynol :

  • Addoliad a Dysgeidiaeth
  • Rheoli Adeiladau a Thir yr Eglwys
  • Ymgysylltiad Cymuned ac Ymgyrchoedd Byd Eang
  • Ffordd o Fyw

Mae’r eglwysi i gyd yn gweithio’n ddiwyd tuag at hyn drwy gwblhau tasgau priodol a gwneud newidiadau yn ein bywydau personol a’n bywydau eglwysig a fydd yn gwneud gwahaniaeth i ddyfodol ein daear yn y pen draw.

Mae tri lefel o gydnabyddiaeth o’n hymroddiad i’r amcanion yma sef Efydd, Arian ac Aur a braf yw cael rhannu’r newyddion fod Eglwys Llangeinwen wedi llwyddo i gyrraedd y nod Arian yn ddiweddar tra bod Eglwys Llanidan ac Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll bellach wedi cwblhau’r nod cyntaf sef Efydd. Mae holl eglwysi eraill Bro Dwynwen yn gweithio tuag at yr un nod.

Diben cyffredinol cynllun gwobrwyo’r Eglwys Eco yw dathlu’r dulliau y mae cymunedau eglwysig yn eu mabwysiadau er mwyn gofalu am y ddaear fel rhan allweddol o’n ffydd Gristnogol.

Fel rhan o’r broses barhaus honno bydd eglwysi Bro Dwynwen yn cymryd rhan yn y cynllun Eglwysi’n Cyfri’ Natur rhwng Mehefin 3-11 pryd y bydd cyfle i’n cymunedau lleol droi i mewn atom ar gyfer gwasanaeth byr os dymunant ac i dreulio amser wedyn yn darganfod ac yn cofnodi’r bywyd gwyllt sydd i’w weld ar dir y gwahanol eglwysi. Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am yr hyn fydd yn digwydd yn y gwahanol eglwysi fel rhan o Eglwysi’r Cyfri’ Natur yn ystod yr wythnosau nesaf.


ECO CHURCH:  PLEASANT PLACES

Click here for the full story in "Y Ddolen".

‘The boundary lines have fallen for me in pleasant places; surely I have a delightful inheritance,’ according to the Psalmist (Psalm 16), and Bro Dwynwen congregations are very much aware of their responsibility to protect and care for the natural environment that they have inherited in this part of Ynys Môn.

St Mary’s, Llanfairpwll, Sant Nidan, Brynsiencyn and Santes Ceinwen, Llangeinwen have all registered as members of the Eco Church scheme - ecochurch.arocha.org.uk – that encourages us as Christians to care for God’s world in each of the following areas:

  • Worship and Education
  • Managing Church Buildings and Land
  • Engaging with Communities and Global Campaigns
  • Lifestyle

All the churches are busy working towards this end by completing particular tasks and making changes in our personal lives and the lives of our churches that will make a difference to the future of our world in the long term.

There are three levels of acknowledgement of our commitment to these aims: Bronze, Silver and Gold, and we’re very pleased to share the news that Llangeinwen Church recently gained a Silver award while both St Nidan and St Mary’s have completed the first stage, Bronze. All the other churches in Bro Dwynwen are working towards the same goal.

The overall aim of the Eco Church award scheme is to celebrate the ways that church communities have been engaging with and caring for the earth as a key part of our Christian faith.

As part of this ongoing process, Bro Dwynwen churches will be taking part in the Churches Count on Nature campaign between June 3-11 when there will be an opportunity for local communities to visit the various churches, for a short service if they wish, and then to spend some time discovering the variety of wildlife, plants and flowers on church land and making a note of what they have seen. Watch this space during the next few weeks for further details of Churches Count on Nature events at our various churches.

Tysysgrifau Eglwysi Eco ------ Bro Dwynwen ------ Eco Church Certificates

Mannau Cynnes

Fel rhan o'n Cenhadaeth gyfredol ym Mro Dwynwen, a'r argyfwng costau byw yn gwaethygu, penderfynwyd yn unfrydol mai da o beth fyddai agor rhai o'n hadeiladau cymunedol er budd y gymuned leol .

Mewn cydweithrediad â Chyngor Bro Cymuned Llanfairpwll fe aethom ati i ddatblygu cynllun 'Mannau Cynnes' , sef mannau cymunedol wedi eu lleoli o fewn ein neuaddau, sef Neuadd Eglwys y Santes Fair  yn Llanfairpwll a'r Hen Fecws  yn Nwyran - mannau sy'n cynnig cawl a lluniaeth , cwmnïaeth a gweddi; llefydd cynnes a braf i ni ddod at ein gilydd y gaeaf hwn heb unrhyw gost .

Mae Neuadd yr Eglwys Llanfairpwll ar agor bob dydd Mercher rhwng 10.45 y.b. a 12.15 y.p. a hefyd ar ail bnawn Iau y mis rhwng 2 y.p. a 4y.p.

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â Mannau Cynnes Bro Dwynwen, cysylltwch â'r Parch Llew Moules-Jones; llewmoules-jones@esgobaethbangor.net



Warm Spaces

In response to our ongoing Mission work here in Bro Dwynwen, and in conjunction with the Llanfairpwll Community Council, it was unanimously decided to make use of our Church hall buildings as 'Warm Spaces '

As a result St Mary's Church Hall  in Llanfairpwll and yr Hen Fecws  in Dwyran are now open for refreshments, company and prayer during this cost of living crisis. These are warm spaces that offer a warm and inviting place to come together this winter at no cost .

If you would like any further information regarding Bro Dwynwen’s Warm Spaces then please contact Revd Llew Moules-Jones; llewmoules-jones@esgobaethbangor.net

WARM SPACES - Invitation to visit St Mary's Church Hall for tea/coffee. Wednesdays 10:45am to 12:15pm
WARM SPACES - St Mary's Church Hall for tea/coffee

Dyma gyfle ichi gael cip ar fideo Nadolig Rownd a Rownd 2022  (Rondo Media) sy’n cynnwys fersiwn arbennig o gân boblogaidd y grŵp Celt, 'Rhwng Bethlehem a'r Groes', ac a ffilmiwyd yn ddiweddar yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll. Mae’n ein hatgoffa o’r newydd pa mor werthfawr yw cariad, cyfeillgarwch a chymwynas yn ein bywydau o ddydd i ddydd.

Enjoy the popular TV drama Rownd a Rownd’s Christmas video 2022 just released by Rondo Media and filmed recently at St Mary’s Church, Llanfairpwll. It features a special version of Celt’s popular song ‘Rhwng Bethlehem a’r Groes’ (From Bethlehem to the Cross) and serves to remind us anew of the importance of love, friendship and kindly acts in our daily lives.

Apêl Nadolig yr Archesgob | The Archbishop's Christmas Appeal

Cyflwyno Tysteb i’r Parchedig Andy Hughes

Ar Sul cyntaf yr Adfent yn eglwys Llangeinwen, cafwyd achlysur hapus pan gyflwynodd Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth, Parch Llew Moules-Jones, Dysteb i’r Parchedig Andy Hughes ar ran cynulleidfaoedd holl eglwysi Bro Dwynwen i ddathlu ei benodiad fel Offeiriad Cynorthwyol y Fro. Wrth ei longyfarch, disgrifiodd y Parch Moules-Jones Andy fel rhan annatod bellach o dîm Bro Dwynwen.

Presenting a Testimonial to the Rev Andy Hughes

On the first Sunday in Advent at Llangeinwen church there was a happy occasion when Rev. Llew Moules-Jones, Ministry Area Leader, presented a Testimonial to the Rev Andy Hughes on behalf of the congregations of all the Bro Dwynwen churches to celebrate his appointment as an Associate Priest in Bro Dwynwen. Congratulating him, Rev Moules-Jones described Andy as an integral part of the Bro Dwynwen team. 

Mrs Anne Cragg, Warden Eglwys Llangeinwen, gyda’r Parch Andy Hughes a’r Parch Llew Moules-Jones
Trwyddedu / Licensing
Gwasanaeth Trwyddedu | Licensing Service 23/10/2022
English

Y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol ac Archddiacon Bangor, yn dilyn gwasanaeth trwyddedu’r Parch Andy Hughes, Curad Bro Dwynwen, yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll ar fore Sul Hydref 23. Maen nhw yng nghwmni warden y Santes Fair, Jenny Lomax, a Nia Hall, warden y Ficer Bro Dwynwen.

Roedd aelodau ar draws Bro Dwynwen yn bresennol ac yn ystod yr un gwasanaeth trwyddedwyd hefyd ein Darllenydd Lleyg, Joan Hardie, a Wardeiniaid yr amrywiol eglwysi yn y Fro.


Cymraeg

The Right Reverend Mary Stallard, Assistant Bishop and Archdeacon of Bangor, following the licensing of the Rev. Andy Hughes, Curate at Bro Dwynwen, at St Mary’s Church, Llanfairpwll on Sunday, October 23. They are accompanied by Jenny Lomax, warden at St Mary’s and Nia Hall, warden to the Vicar at Bro Dwynwen.

Members of all the churches across Bro Dwynwen were present at the service when our Lay Reader, Joan Hardie, was also licensed as well as the Wardens of each church in the Fro.