minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Llun o Ynys Llanddwyn | Image of Llanddwyn Island
CROESO I WEFAN YR EGLWYS YNG NGHYMRU, BRO DWYNWEN / WELCOME TO THE CHURCH IN WALES' BRO DWYNWEN WEBSITE
English

Amdanom ni: Bro Dwynwen

Lleolir Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen ar arfordir de-ddwyreiniol Ynys Môn , ac fe gymer ei henw oddi wrth Santes Dwynwen, nawddsant y cariadon. Mae’r fro yn rhan o Esgobaeth hynafol Bangor ac yn ardal sydd â'i gwreiddiau yn nwfn yn nhraddodiad a diwylliant Ynys Môn. Gallwn, fel Cristnogion yn yr ardal hon, olrhain ein hanes yn ôl i ddynion a merched sanctaidd a sefydlodd gymunedau o weddi a gwasanaeth ar draws yr Ynys, a hynny mor gynnar â’r bumed ganrif.

Mileniwm a hanner yn ddiweddarach, nid yw ein cenhadaeth wedi newid, ond mae ein cyd-destun erbyn heddiw yn newydd ac yn heriol. Mae ein hymateb fel Ardal Weinidogaeth yn ategu ymateb yr Esgobaeth gan ymrwymo ein hunain i weledigaeth o ddilyn Iesu gydag egni newydd ac mewn ffyrdd newydd.

Rydym wedi ymrwymo i dair egwyddor weledigaethol a ddylai, yn ein barn ni , nodweddu ein bywyd cyffredin fel Ardal Weinidogaeth: addoli Duw, tyfu'r Eglwys a charu'r byd.

Mae 7 o eglwysi i gyd yn yr ardal:

  • Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll
  • Eglwys Sant Edwen,Llanedwen
  • Eglwys Nidan Sant, Brynsiencyn
  • Eglwys y Santes Ceinwen, Llangeinwen
  • Eglwys y Santes Fair, Llanfair yn y Cwmwd
  • Eglwys San Pedr, Niwbwrch
  • Eglwys Sant Credifael, Penmynydd (ar agor yn achlysurol)
Cymraeg

About us: Bro Dwynwen

Named after Santes Dwynwen, the Welsh patron saint of lovers, Bro Dwynwen Ministry Area is situated along the south west coast of Anglesey and forms part of the historic Diocese of Bangor. Our roots are firmly set within Anglesey's Welsh traditions and culture. As Christians in this area, we can trace our history back to sacred men and women who established communities of prayer and service across the Island of Anglesey and the Diocese of Bangor as early as the 5th century. A millennium and a half later, our mission has not changed, but our context is new and challenging.

Our response as a Ministry area complements the Diocese response and commits ourselves to a vision of following Jesus with new energy and in new ways.

We are committed to three visionary principles that we believe should characterise our common life as an area of Ministry: worshipping God , growing the Church , loving the world.

There are seven churches in total in the area:

  • St Mary's, Llanfairpwll
  • St Edwen's, Llanedwen
  • St Nidan's, Brynsiencyn
  • St Ceinwen, Llangeinwen
  • St Mary's, Llanfair yn y Cwmwd
  • St Peter's, Newborough
  • St Credifael, Penmynydd (occasionally open)