minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Gwasanaethau Ychwanegol

Cynhelir ‘Eglwys Caffi’ ar ail fore Sul pob mis yn  Yr Hen Fecws, Dwyran  am 10.30. 

Croeso cynnes i bawb.


Pwt o hanes

Wrth ichi ddirwyn eich ffordd allan o bentref Dwyran, ac ar y tro cyn i’r ffordd fynd yn ei blaen yn unionsyth am Niwbwrch, mae Eglwys Llangeinwen yn swatio mewn llecyn cysgodol. Ystyrir yr eglwys yn unigryw yn Ynys Môn oherwydd iddi gael ei sefydlu, yn ôl pob tebyg yn y nawfed ganrif neu efallai mor gynnar â’r chweched ganrif, gan ddiddordeb teuluol yn hytrach na chan ddiddordeb arferol cymdeithas neu ddylanwad dosbarth.

Dwy chwaer, Ceinwen a Dwynwen, a sefydlodd Eglwys Llangeinwen yn ogystal â’r un y mae ei hadfeilion enwog i’w gweld ar Ynys Llanddwyn gerllaw. Wedi hynny cysegrwyd y ddwy eglwys i’w sylfaenwyr, ac y mae hyn yn anarferol oherwydd bod yr unig seintiau benywaidd a anrhydeddir yn y Calendr Cymraeg yn rhai Beiblaidd.

Mae’r adeilad presennol yn Llangeinwen yn dyddio’n ôl i’r ddeuddegfed ganrif ac fe’i defnyddiwyd yn gyson ers hynny. Y mae muriau gogleddol a deheuol corff yr eglwys o’r cyfnod hwn a rhai’r gangell yn perthyn i’r canol-oesoedd. Newidiwyd llawer ar y cynllun pedronglog syml, sy’n nodweddiadol o adeiladau eglwysig cyfoes yn Ynys Môn, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg trwy ychwanegu capel gogleddol a thŵr. Mae cerrig beddi o’r nawfed a’r unfed ganrif ar ddeg wedi eu hadeiladu i mewn yn y bwtresi. Dyddia’r bedyddfan garreg addurnol o’r drydedd ganrif ar ddeg.

Cafodd yr eglwys ei hadnewyddu yn 1928 pan dynnwyd i lawr oriel Fictoraidd ym mhen gorllewinol corff yr eglwys. Ar ôl symud plastr y nenfwd daeth trawstiau to yn perthyn i’r canol-oesoedd cynnar i’r golwg..

Cymraeg

Additional Services

A ‘Café Church’ is held on the second Sunday every month at  Yr Hen Fecws, Dwyran at 10.30 a.m. 

A warm welcome to all.


A short history

As you travel west from the village of Dwyran, just as the road bends sharply before making its way in a straight line towards Newborough, you will see St. Ceinwen’s church nestling between the trees. Llangeinwen is considered to be unique in Ynys Môn since it was established, probably in the ninth century, perhaps as early as the sixth century, as a result of familial influence rather than that of class or community.

Ceinwen and Dwynwen established St. Ceinwen’s church as well as the one whose famous ruins can be seen on Llanddwyn Island nearby. The two churches were consecrated to their two founders, an unusual step since the only feminine saints honoured in the Welsh Calendar are Biblical ones.

The present church building at Llangeinwen has its origins in the twelfth century and has been in constant use since then. The north and south church walls belong to this period, while those of the chancel have their origins in the middle ages. The simple quadrangular shape, characteristic of modern church buildings on Ynys Môn, underwent many changes in the nineteenth century when a north chapel and tower were added. The gravestones, dating from the ninth and eleventh centuries, have been built into the buttresses. The decorated stone font dates from the thirteenth century. The church was restored in 1928 when the Victorian gallery was dismantled in the west wall. On removing the plaster from the ceiling, roof beams from the early middle ages were exposed.