Neuadd Eglwys y Santes Fair yw adeilad yr hen ysgol ym mhen uchaf Lôn Tŷ Croes yng nghanol Llanfairpwll. Mae ‘na faes parcio bychan yno a, lle bo’r angen, mae mynediad ar y gwastad drwy’r drws cefn. Mae’r neuadd yn cynnwys cegin, toiled ac adnoddau ystafell gyfarfod. Mae’r eglwys yn ei defnyddio yn ogystal â grwpiau cymunedol o wahanol oedrannau ac ardaloedd yn y dalgylch. Os am fwy o wybodaeth am ddefnyddio’r neuadd ar gyfer partïon plant, dyddiau hyfforddi, boreau coffi ac ati cysylltwch â Liz Bushell ar 01248 714241. Rydym bob amser yn falch o dderbyn cyfraniadau tuag at y gost o gynnal a chadw’r neuadd gan eu bod o gymorth i wneud yn siŵr fod y man cymunedol poblogaidd yma’n parhau i wasanaethu Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen a thu hwnt.
St Mary’s Church Hall is the old school building at the top of Lôn Tŷ Croes in the middle of Llanfairpwll. It has a small car park and, if required, there is level access via the rear door. The hall offers kitchen, toilet and meeting room facilities. It is used by church and community groups serving a wide age-range and catchment area. To find out more about using the hall for children’s parties, training days, coffee-mornings etc contact Liz Bushell on 01248-714241. Donations in support of upkeep are always welcome as they help to ensure this popular community space continues to serve Bro Dwynwen Ministry Area and beyond.