Pwt o hanes
‘Draw o ymryson ynfyd,/chwerw’r newyddfyd blin’ meddai’r bardd gynt am y Lôn Goed yn Eifionydd: geiriau sydd yr un mor addas i ddisgrifio’r heddwch sydd i’w deimlo ar dir eglwys fechan y Santes Fair, Llanfair-yn-y-Cwmwd. Saif mewn llecyn cysgodol ryw gwta hanner milltir i’r dwyrain o Eglwys Llangeinwen.
Cynllun syml sydd i’r adeilad Gradd II rhestredig sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif, a’r ffaith na chafodd ei hadeiladwaith ei newid yn sylweddol yn ystod canrifoedd diweddarach yw’r hyn sy’n rhoi iddi ei hynodrwydd.
Ar fur gogleddol y gangell gallwch weld clawr arch, sy’n dyddio o ganol y 13eg ganrif, wedi ei addurno â chroes gerfiedig a phatrwm deiliog; elfen hynod arall yw’r bedyddfaen sy’n dyddio o’r !2fed ganrif ym mhen gorllewinol corff yr eglwys. Mae yma hefyd ffenest liw sy’n coffau’r meddyg W.R.Williams a oedd yn ŵr i’r hanesydd Elizabeth Ann Williams, Taldrwst, Dwyran. Hi oedd awdur y gyfrol ‘Hanes Môn yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’ (1927) a ddatblygodd yn gryn glasur.
Yn gorwedd yn heddwch hynod Llanfair-yn-y-Cwmwd mae gweddillion Maurice Wilks, cynllunydd y Land Rover; yno hefyd mae beddau mwy diweddar y Parch. Emlyn Jones fu’n weinidog yn Nwyran am flynyddoedd lawer a’r meddyg teulu Dr John B.T. Griffiths, ŵyr i’r Dr John Williams, Brynsiencyn.
Ni chynhelir gwasanaethau yma bellach ond y bwriad yw ei datblygu’n eglwys bererindod lle y caiff teithwyr blinedig ddod i brofi llonyddwch a heddwch ysbrydol.
A short history
‘Far from the madding crowd’ describes perfectly the peaceful surroundings of the small church of St Mary’s Llanfair-yn-y-Cwmwd. It nestles in a sheltered spot down a narrow road about half a mile to the east of Llangeinwen church.
Its simple, unembellished structure, a Grade II listed building, dates from the fifteenth century, and the fact that its original structure has not been extended or altered much during the following centuries gives it its distinctive character.
On the north wall of the chancel you can see a coffin lid dating from the mid-13th century, decorated with a carved cross and a foliage design; another interesting feature is the font dating from the 12th century at the west end of the nave. One of the stained glass windows commemorates the life of W.R.Williams, a local medical practitioner and husband of the historian Elizabeth Ann Williams, Taldrwst, Dwyran. She was the author of ‘Hanes Môn yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’ (The History of Anglesey in the Nineteenth Century), published in 1927 and a classic of its time.
Amongst those buried in the churchyard are Maurice Wilks, designer of the Land Rover, as well as Rev. Emlyn Jones, a minister at Dwyran chapel for many years and local GP Dr John B.T.Griffiths whose grandfather was Dr John Williams, Brynsiencyn.
No services are held here now but the aim is to develop St Mary’s Llanfair-yn-y-Cwmwd as a pilgrimage church where weary travellers can come to enjoy spiritual rest and peace.