Gwasanaethau Ychwanegol
Cynhelir gwasanaeth Cymun byr, gyda lluniaeth ysgafn a sgwrs i ddilyn, yn Neuadd Eglwys y Santes Fair bob bore Mercher am 10 o’r gloch.
Croeso cynnes i bawb
Pwt o hanes
Ychydig lathenni i ffwrdd oddi wrth drafnidiaeth brysur Pont Brittania, ym mhen draw lôn droellog sy’n pasio heibio gwesty Carreg Brân ac o dan y bont reilffordd saif Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll. Er mor agos i’r Bont a’i llewod mae yma heddwch i’w deimlo wrth ichi ddirwyn eich ffordd o’r maes parcio a thrwy borth y fywent i lawr at brif ddrws yr eglwys. O’ch blaen fe welwch chi’r Fenai yn ymestyn i gyfeiriad Plas Newydd a thu draw, golygfa nodedig pan fo’r tywydd yn braf a’r afon yn pefrio. A thu hwnt i’r cyfan, yn codi eu pennau yn y pellter, mynyddoedd mwyn yr Eifl.
Bu addoldy yma ers dros 600 mlynedd ond ym mis Medi 1853 y codwyd yr adeilad presennol. Un o nodweddion hynod yr eglwys yw ffenest liw anarferol yn dathlu ei chysylltiad, flynyddoedd a fu, ag ysgol hyfforddi morwyr yr Indefatigable gerllaw. Islaw’r fynwent mae cofgolofn i Horatio Nelson a godwyd yn 1837; yn y fynwent ei hun, ar y chwith fel y cerddwch i lawr tuag at y prif ddrws, mae colofn dalsyth a godwyd er cof am bymtheg o ddynion fu farw yn ystod y broses o godi Pont Britannia rhwng 1846-50.
Rai lathenni tu hwnt i wal dalcen yr eglwys mae croes Geltaidd drawiadol yn nodi bedd y bardd a’r ysgolhaig Syr John Morris-Jones (1864-1929). Bellach mae’n gorffwys ger y Fenai fu’n gymaint o ysbrydoliaeth ag y bu Môn iddo fel bardd:
Mwy ym denai
Môn a Menai
Nag y gallaf sôn;
Mi ddychwelwn
Awn lle’r elwn
Fyth yn ôl i Fôn.
Additional Services
A short Communion service, followed by refreshments and a chat, is held every Wednesday morning at St Mary's Church Hall at 10 a.m.
A warm welcome to all.
A short history
A stone’s throw away from the steady stream of traffic travelling along Brittania Bridge, at the far end of a winding road that goes past Carreg Brân hotel and under the railway bridge, stands St. Mary’s Church, Llanfairpwll. Although so close to the Bridge, there is a palpable sense of peace as you wend your way from the car park, through the lychgate and down towards the main church door. Ahead, you will see the Menai Strait as it flows onwards towards Plas Newydd and beyond, a breathtaking view when the weather is fine and the Strait shimmering in the sun. And in the far distance, a striking spectacle on the horizon, the gentle outline of Yr Eifl (The Rivals) mountains.
This has been the site of a place of worship for over 600 years but the present building was constructed in September 1853. One of the exceptional features in the church is an unusual stained glass window celebrating its connection, in years gone by, with the former Indefatigable training school for sailors. Below the churchyard stands a statue of Horatio Nelson erected in 1837; in the churchyard itself, on the left as you walk down to the main door, stands a column to commemorate the lives of fifteen men who died during the process of building the Britannia Bridge between 1846-50.
A few yards beyond the church’s gable-end stands an impressive Celtic cross denoting the burialplace of the poet and scholar Syr John Morris-Jones (1864-1929). He now rests near the banks of Y Fenai, such a source of inspiration for him as a poet as was his native Môn/Anglesey:
Mwy ym denai
Môn a Menai
Nag y gallaf sôn;
Mi ddychwelwn
Awn lle’r elwn
Fyth yn ôl i Fôn.
(Words cannot express my love for Môn and Menai; wherever I travel I will always return to Môn.)